Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cae cymunedol
Cau’r cytiroedd (cae cymunedol) | ||
Yn 1858 caewyd lleiniau cul y cytir neu’r cae cymunedol i mewn, a’u gwneud yn rhan o’r caeau mwy fel sydd i’w gweld heddiw. Mae’r map isod yn dangos y tir fel ag yr oedd yn 1887. |
||
|
Fe welwch fod y rhesi o leiniau wedi’u cymryd at ei gilydd i ffurfio caeau mwy, er ei bod yn bosib adnabod rhai o’r siapiau o’r map cynharach. | ||
Mae’r rheilffordd newydd yn rhedeg trwy ganol y cae. Dyma reilffordd Canolbarth Cymru a redai o Lanidloes, Rhaeadr-Gwy a Llanfair ym Muallt trwy Ddyffryn Gwy. ( Y ‘signal post’ yw’r S.P. ar y map). Dros yr afon o Lyswen roedd gorsaf fechan Bochrwyd. Ewch i’r adran sy’n sôn am drafnidiaeth i weld mwy am ddyfodiad y rheilffyrdd. |
|
||