Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
Pont Bochrwyd yn 1887 | ||
Mae’r map isod wedi’i seilio ar fap Arolwg Ordnans graddfa fawr o’r ardal a luniwyd yn 1887. Mae rhan o’r map yn dangos rhai o’r newidiadau yn y lle hwn ers 1840. |
||
|
1. Mae Tolldy yn sefyll ar lan yr afon, ar ochr Sir Faesyfed. Cafodd ei adeiladu rhywdro yn yr 1840au ac yno roedd y casglwr tollau’n byw. Byddai’n casglu toll fechan oddi wrth bobl oedd eisiau croesi’r bont. Yn ôl cyfeirlyfr masnach yn 1875 gwelir mai James Portnell oedd enw’r casglwr tollau oedd yn byw yn y ty bychan. | ||
2. Mae mwy o fythynnod wedi’u hadeiladu yn y gymdogaeth fechan ger y bont. Mae cyfeirlyfr masnach 1875 yn rhestru crydd a siopwr a rhedwyd y Boat Inn gan Mrs Sarah Fowler. | ||
3. Efallai mai’r newid mwyaf oedd dyfodiad y rheilffordd. Roedd hyn yn ei gwneud yn hawdd i bobl yr ardal gyrraedd trefi, dinasoedd a marchnadoedd pell, os gallent fforddio hynny. Mae gorsaf Bochrwyd ychydig i’r Gogledd o’r map. Yn 1875 y gorsaf feistr oedd Mr H. Blayney. |
Cymharwch â map o’r bont yn 1840.. | ||