Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
Pont Bochrwyd yn 1840 | ||
Mae’r map isod wedi’i seilio ar Fap y Degwm o Bochrwyd. Arno gwelwn y pentref a dyfodd ar ochr Sir Faesyfed o’r afon ger y man croesi pwysig hwn. Mae cofnodion y degwm a chyfrifiad 1841 yn dweud wrthym am y gymdeithas a phwy oedd yn byw yno o gwmpas yr amser hynny. |
||
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
1. Safle’r Boat Inn. Fel y rhan fwyaf o’r gymdogaeth, y perchnogion oedd teulu De Winton, Maesllwch. Yn ôl cyfrifiad 1841, Lydia Pryse oedd enw’r wraig oedd yn rhedeg y dafarn. Yn y cyfnod hwn, pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn teithio mewn coets, ar gefn ceffyl, neu yn cerdded, byddai teithio yn cymryd llawer mwy o amser. Roedd tafarnau mewn mannau allweddol fel pont neu groesffordd (y Griffin Inn,Llyswen) yn cynnig llety dros nos. | ||
2.
Ar bob ochr i’r ffordd gallwn weld clwstwr o fythynnod sydd wedi’u rhestru
fel Boatside cottages y pryd hwnnw.
Ar ochr chwith y ffordd (Gorllewin) roedd syrfëwr yn byw, sef Charles Fowke,
a’i wraig a 6 o blant. Fel syrfëwr, efallai ei fod wedi helpu i lunio rhai o fapiau y degwm. Yn y bythynnod eraill roedd sawl teulu gan gynnwys siopwr a theiliwr. |
||
3.
Ar lannau’r Afon Gwy gwelwn Felin Bochrwyd.
Melin oedd hon i falu’r grawn lleol i’w droi’n flawd gan William Davies,
y melinydd. Roedd hon yn broses bwysig iawn drwy gydol oes Fictoria. Roedd
gan bob cymdogaeth ei melin ac roedd amryw ohonynt mewn rhai ardaloedd. |
Cymharwch â map o’r bont yn 1887.. | ||