Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Bochrwyd yn 1887  
 

Isod mae rhan o fap graddfa fawr yn seiliedig ar fap Arolwg Ordnans a luniwyd ar raddfa 25 modfedd i 1 filltir. O’i gymharu â’r map o’r pentref yn 1840 gallwn weld nad oes llawer o bethau wedi newid yn y pentref, ond mae rhai pethau wedi newid.

 

Map of Boughrood in 1887
  1. Codwyd argae ar y nant sy’n llifo heibio i Boughrood Court i greu llyn ger yr adeiladau. Efallai fod y llyn yn cael ei ddefnyddio i weithio melin ar y safle.  
  2. Mae Map y Degwm cynharach yn dangos ffordd fach yn mynd reit o amgylch y fynwent, gyda thy ar yr ochr Ogledd Orllewinol. Yn 1887 mae’r map yn dangos y ffordd ar ochr Ddwyreiniol y fynwent yn unig, ac mae’r ty wedi diflannu’n gyfan gwbl!  
  3. Y newid mwyaf yn yr ardal o ddigon oedd dyfodiad y rheilffordd. Yma gallwch weld rhan fechan yn unig o reilffordd Canolbarth Cymru yng nghornel y map. Roedd gorsaf fechan ychydig yn is i lawr na’r pentref. Roedd hyn yn golygu y gallai’r bobl leol fynd ar y trên trwy Lanfair ym Muallt, Rhaeadr-Gwy a Llanidloes i Ganolbarth Cymru, neu deithio i lawr i Aberhonddu neu i Loegr ac i’r rhwydwaith mawr o reilffyrdd i bob cwr o Brydain oes Fictoria.
.
 
  Cymharwch â map o’r pentref tua 1840..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli