Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Bochrwyd tua 1840  
 

Mae’r map isod wedi’i seilio ar ran o fap y degwm o blwyf Bochrwyd. Mae’n dangos rhan o’r plwyf o gwmpas eglwys y plwyf.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
  Yn ôl y map ffermydd bychain wedi’u gwasgaru o gwmpas yr eglwys oedd pentref Bochrwyd. Roedd Boughrood Court yn perthyn i stad Maesllwch, fel llawer o ffermydd eraill yn yr ardal. Yn 1841, roedd y cyfrifiad yn dangos mai tenant Boughrood Court oedd Edward Powell a oedd yn byw yno gyda’i wraig, Mary, a’u 5 plentyn. Yr hynaf oedd Charles oedd yn 20 oed, a’r ieuengaf oedd Roger, oedd yn 10 oed. Nid oedd dim o’r plant yn mynd i’r ysgol, - mae’n debyg eu bod i gyd yn gweithio ar y fferm. Roedd saer olwynion a’i deulu yn byw yno hefyd.  
  Mae’r adeilad sydd wedi’i farcio yn 215 ar ochr Ogledd Orllewinol y fynwent, y drws nesaf i Boughrood Court wedi’i restru yng nghofnodion y Degwm fel Church House. Roedd hwn hefyd yn rhan o stad Maesllwch. Yng nghyfnod cynnar Fictoria roedd perchnogion tir cyfoethog yn bobl bwysig iawn yn y gymdeithas.  
  Roedd Neuadd yn perthyn i berchennog tir cyfoethog arall, sef Arthur Macnamara. Y tenant oedd Thomas Pugh a oedd yn ffermio yno gyda’i deulu.
.
 
  Cymharwch â map o’r pentref yn 1887..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli