Y Gelli a Dyffryn Gwy
Trosedd a chosb
  Tystiolaeth am yr oriawr oedd ar goll  
 

Pan oedd William Gore yn rhoi’i dystiolaeth yn y llys ar Fai 27, 1892, y dydd ar ôl y lladrad rhoddodd rai manylion am ei oriawr i brofi mai ei oriawr ef oedd hi.
Roedd rhan o gadwyn ei oriawr ganddo ac roedd y gweddill ar yr oriawr. Roedd marciau arni ac roedd rhan o’r gwydr wedi torri. Hefyd, roedd gwneuthurwr watshis yn Blaenau wedi rhoi un bys newydd arni.
Dyma ran pellach o dystiolaeth William Gore…

Watch and chain
Papur y
Sesignau
Chwarter

1892
Quarter Sessions paper
 

"I know I had it before I went to sleep as I felt for it and my money before I dozed off. I never met the prisoner [James Riley] before he came and sat by me at the Bell Inn. I also found my trousers cut near my pocket..."
James Riley oedd enw un o’r chwe dyn oedd yn yfed yn Nhafarn y Bell y noson honno. Dywedodd William Gore fwy am y dyn yma...

Beer tankards
Papur y
Sesignau
Chwarter

1892
Quarter Sessions paper
 

"[The] Prisoner sat by the side upon which my trousers are cut but he changed from one side to the other, we were all sitting on chairs..."
Pan ddeallodd William fod ei oriawr ar goll, dywedodd hynny wrth Dafarnwraig y Bell, Olive Colley. Ewch i’r dudalen nesaf i weld beth oedd ganddi i’w ddweud am y lladrad...

Chwech o dynion tawel yn y Dafarn y Bell...

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli