Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
| Masnachwyr
lleol : ‘bakers to booksellers’ pobyddion i werthwyr llyfrau |
||
|
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf. |
Roedd y rhan fwyaf o bobl yr ardal yn dibynnu ar fasnachwyr a pherchnogion siop lleol am fwy neu lai pob peth oedd angen arnynt. Mewn ardaloedd gwledig lle mae’r boblogaeth yn llai, byddwch yn aml iawn yn gweld fod gan rywun fwy nag un rôl yn y gymuned. Yma gallwn weld y gwerthwyr llyfrau a’r rhai oedd yn cadw deunydd ysgrifennu oedd yn gwerthu llyfrau (neu’n eu benthyg) i’r bonedd hynny a phobl oedd ag addysg oedd yn gallu darllen. Roeddynt yn dda iawn am ysgrifennu llythyron ac roeddynt yn gallu prynu eu papur, inc a pheniau yma yn y siopau oedd yn gwerthu deunydd ysgrifennu. |
|
Roedd
gofaint hefyd yn chwarae rôl bwysig
iawn yn ystod oes Fictoria. Cyn dyddiau peiriannau trydan cymhleth roedd
y gofaint lleol yn gallu trwsio’r rhan fwyaf o beirannau. Roedd ffermwyr
yn mynd â’u hoffer i’r efail i’w trwsio, ac roedd y gofaint hefyd yn pedoli
ceffylau. Roedd y gofaint yn ddyn prysur iawn gan fod yna filoedd o geffylau
yn gweithio yng nghefn gwlad. Gofaint gwyn
yw rhywun sy’n grefftwr sy’n gweithio gyda thun neu sy’n rhoi sglein ar
wrthrychau metel. |