Crughywel
Mapiau Fictoriaidd
Crughywel yn 1872 | ||
Dyma ddarn o fap a gyhoeddwyd yn 1872. Mae’n rhoi syniad i ni sut olwg oedd ar dref Crughywel tua chanol Oes Fictoria. Mae’r darn llwyd cysgodol ar y map yn dangos siâp y tirlun, yn enwedig y bryniau i gyfeiriad y Gogledd Orllewin o’r dref. Wrth edrych ar y darlun hwn o’r tirlun, fe welwch sut y tyfodd y dref yn y man lle byddai’r briffordd o Loegr — a ddoi i fyny Dyffryn Wysg i gyfeiriad Aberhonddu — yn croesi’r afon. |
||
Mae’r dref ei hun yn llawer llai nag y mae heddiw. Ar ochr dde’r Stryd Fawr (ar yr ochr orllewinol), dim ond ychydig o dai sydd yno, ac mae llawer o le gwag o gwmpas yr eglwys (lle mae marc y groes). | ||
Y dref fyddai’r cyrchfan i farchnad yr ardal, lle doi pobl i werthu nwyddau. Byddai masnachwyr lleol yn gwerthu nwyddau yn y siopau, a byddai’r tafarndai yn darparu llety i deithwyr. (Edrychwch ar y tudalennau sy’n sôn am yr hen Gyfeirlyfrau Masnach i weld pwy oedd yn byw ac yn gweithio yn y dref adeg Oes Fictoria). | ||
Cymharwch fap o Langatwg yn 1904… |