Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
Mary a Harriet yng ngharchar y dref | ||
Enw Uwcharolygydd yr heddlu yn Llanfair-ym-Muallt
yn 1855 oedd Jeremiah
Rattigan. |
Archifdy Sir Powys |
Hwn oedd y bil am gadw'r ddwy wraig
yng ngharchar y dref dros dro, a dyma sydd arno - Sylwch fod Mary Cooke wedi colli
llythyren olaf ei henw yn y papur hwn, ond yr un wraig yw hi. Roedd y
9 ceiniog yr un o gostau am bob diwrnod a phob noson yn
y carchar yn yr hen arian. Tua 4 ceiniog fyddai hynny heddiw, yn ddigon
o arian i gadw llygoden fochdew efallai
– ond iddi beidio â bod yn un farus iawn! |
||