Llanfair ym Muallt
yn yr oes Fictoria
  Golygfa o'r dref farchnad yn y dyddiau cynnar.  
 

Cafodd yr engrafiad hwn ei wneud yn y flwyddyn 1830, saith mlynedd cyn dechrau oes Fictoria.
Gallwch weld mai cymuned go fach ar lan yr afon oedd Llanfair-ym-Muallt cyn gwella'r ffyrdd a'r rheilffyrdd yn ystod oes Fictoria.

 
Llanfair-ym-Muallt yn
1830
1830 engraving of Builth
 

Yn y llun hwn gallwch weld y dref farchnad fechan yn 1830 fel roedd hi 'n edrych o'r tir uchel i'r de-orllewin o Llanfair-ym-Muallt yn ardal Maesmynys. Y tu hwnt i'r dref mae'r Afon Gwy yn ymdroelli tua'r cwm sydd i'r de ddwyrain, ac yna i'r Gelli a thu hwnt.
Mae Eglwys y Santes Fair gynnar yng nghanol yr olygfa, ac mae Llanelwedd ar lannau chwith yr Afon Gwy. Torrwyd y cerrig ar gyfer adeiladau llawer o'r dref o chwarel ar y llethrau sydd ar y chwith yn yr olygfa hon.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt