Llanfair 
      ym Muallt
      yn yr oes Fictoria 
| Y bont dros yr Afon Irfon | ||
| Daeth y llun hwn o gerdyn post Fictoraidd 
        sydd yn dangos yr Afon Irfon yn Llanfair-ym-Muallt 
        . Mae'r pennawd yn dweud 'Swing Bridge' -Pont droi-, ond pont 
        grog yw hi mewn gwirionedd. Cafodd ei chodi yn 1839 er mwyn 
        i'r ymwelwyr â'r dref gael ffordd hwylus i'r Ffynhonnau Parc.  | 
| "Pont 
        Droi " dros yr Afon Irfon tua 1890 |  | |
| Cafodd 
      y bont grog hon ei hadeiladu'n wreiddiol dros yr Afon 
      Wysg yn Stad Glan-wysg ger Crughywel, ac yna cafodd ei hailadeiladu 
      yn Llanfair-ym-Muallt yn 1839. Roedd angen llawer o waith trwsio arni yn 
       1868, a chafodd ei defnyddio hyd 1983 
      hyd nes i bont newydd ddeniadol gymryd ei lle. Mae cerdyn hwn yn nodweddiadol o'r cardiau post swfenîr, roedd llawer ohonynt yn cael eu gwerthu i'r ymwelwyr. Roeddent yn cael eu gwneud o ffotograffau du a gwyn, ac yna'u lliwio'n ofalus â llaw, gan ddefnyddio inc arbennig. Yn aml iawn bydd y cardiau hyn yn edrych yn rhyfedd o'u cymharu â'r ffotograffau lliw gwych sydd yn cael eu cynhyrchu mor hawdd heddiw. Ond roeddent yn swfenîr gwyliau poblogaidd iawn. . | ||