Llanfair-ym-Muallt
Ennill bywoliaeth
  Proffesiynau'r ardal  
  Professsional persons

Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

PWYSIG ! Sylwch mai dynion yw bob un o'r rhai sydd yn y rhestr 'Pobl Broffesiynol'("Professional persons") Roedd y mwyafrif o'r proffesiynau ar gau i ferched yng nghyfnod Fictoria.

 

Roedd rhaid i'r dynion proffesiynol weithio'n galed yn nechrau oes Fictoria. Hwy oedd y dynion oedd wedi cael addysg. Gallwch weld enwau'r twrneiod yma (attorneys) - oedd wedi cael eu hyfforddi yn y gyfraith, a'r llawfeddygon (surgeons) a fyddai'n gofalu am iechyd y bobl leol am dâl.
Roedd swyddogaeth y llawfeddyg yn newid yn nyddiau cynnar oes Fictoria. Hyd yn hyn doedd llawfeddyg ddim wedi derbyn fawr o hyfforddiant, ond gallent dynnu dannedd a gosod esgyrn oedd wedi torri. Yn ddiweddarach yn oes Fictoria byddai doctoriaid yn cael mwy o lawer o hyfforddiant. Trodd y llawfeddyg yn ddoctor oedd wedi cael hyfforddiant arbennig i wneud llawdriniaeth feddygol.

Sylwch nad oedd bancwyr nac athrawon ysgol ymysg y bobl broffesiynol, fel heddiw. Byddai'r Ysgolion Elusen yn cynnig addysg i blant y werin yn y dref, ond yn 1835 roedd llawer iawn o'r teuluoedd hyn yn gorfod anfon y plant i weithio er mwyn ennill arian i gadw'r teulu.

Victorian professional man
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt