Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Gwely o garreg, matras o wellt, bwced o fetel!  
 

Yn rhestr 1888 roedd yna gofnod o'r dodrefn ar gyfer celloedd y carcharorion yng ngorsaf Heddlu Llanfair-ym-Muallt hefyd.
Llety moethus ? Choelia i fawr ...

 
  Part of inventory,1888 "Cell next Entrance
No 1...Stone bedstead with
wood top
No 1...Straw palliasse
No 2.. Woollen blankets,
much worn
No 1...Cotton Rug - ditto
No 1...Galvanized Bucket
No 1...Lock and key for door"
 

Beth am wely carreg ? Sach fawr yn llawn o wellt i'w ddefnyddio fel matras oedd y "straw palliasse" .
Mae'r ddau wrthban gwlân yn cael eu disgrifio "â llawer o ôl traul arnynt' – ac mae hi'n bur debyg eu bod nhw'n o denau yn y lle cyntaf!
A hon oedd y gell orau yn y lle...

 
Bwced ddi-werth Llun a dynnwyd gan Rob Davies, ein harbenigwr lluniau di-werth!
Part of inventory,1888 "No 3 Cell
..No 2...Useless Rugs
..No 1 ..Useless ..Bucket"...
Drawing of bucket
  Mae hi'n debyg mai bwced â thwll ynddi oedd y fwced ddi-werth. Eto i gyd roedd hi'n dal ar y rhestr o eiddo!
.
 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt