Llanfair-ym-Muallt
Ennill bywoliaeth
Tafarndai Fictoraidd yn yr ardal | ||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf |
Roedd yna nifer fawr o dafarndai oedd yn rhoi bwyd a llety i bobl ledled Prydain. Yn y cyfeirlyfr Pigot's Directory of South Wales mae yna restr o'r tafarndai yn ardal Llanfair-yn-Muallt ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad y frenhines Fictoria. Roedd rhaid i'r tafarndai oedd yn rhoi llety i deithwyr y goets fawr gyflogi llawer o bobl leol i redeg y tafarndy. (fel y Crown isod). |
Hyd yn oed cyn i'r rheilffordd ddod
i Lanfair-yn-Muallt bu pobl yn ymweld â'r ardal ac yn yfed y dwr ffynnon
yn Ffynhonnau Parc sydd yn union y tu allan i'r dref. Byddai'r tafarndai
oedd ar y rhestr yn brysur iawn, yn yr haf yn arbennig. |