Llanfair-ym-Muallt
Trosedd a Chosb
  Ceffyl i Jeremiah !  
 

Roedd gan Uwcharolygydd yr Heddlu yn Llanfair-ym-Muallt, dipyn o broblem teithio o gwmpas yr ardaloedd roedd yn gyfrifol amdanynt. Roedd hyn yn wir hefyd am bawb oedd yn gorfodi'r Drawing of horsegyfraith yn y dyddiau cynnar.
Yn 1854 cynigiodd yr Uwcharolygydd ddod o hyd i geffyl ar gyfer mynd o gwmpas ei ddyletswyddau. Cynigiodd gadw a bwydo'r ceffyl am £22 y flwyddyn ! Yn y papur sydd isod gallwch weld bod Ustusiaid Sir Frycheiniog wedi derbyn ei gynnig , ar yr amod ei fod yn gallu dod o hyd i anifail addas.

Dim ond £22 y flwyddyn ?
Alla i ddim byw ar hwnnw !
Welais di brisiau'r ceirch
yn ddiweddar?
  Quarter Sessions paperArchifdy Sir Powys
 

O Gofnodion y Sesiynau Chwarter am Sir Frycheiniog yn 1854 y daw'r ddogfen hon. Dyma sydd ynddi. -
"Resolved
That the offer of Jeremiah Rattigan, Police Superintendent, to find and keep a horse for County purposes including forage, stabling and all costs for the annual sum of twenty two pounds be accepted, the said allowance to commence from the time that he gives notice that he is in possession of a horse.
.........................................................................E D Thomas - Chairman"

Mae'n edrych yn beth rhyfedd iawn y dyddiau hyn! Meddyliwch am blismon yn mynd allan i brynu'i gar heddlu ei hunan – a thrwsio'r car ei hunan a'i gadw'n llawn o betrol.

.

 
 

Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt