Llanfair ym Muallt
yn yr oes Fictoria
  Tro ar gwch yn y Gro  
 

Mae'r ffotograff hwn yn dod o gerdyn post swfenîr a gafodd ei gynhyrchu er mwyn ei werthu i 'r bobl Fictoraidd oedd yn ymweld â'r dref tua 1892.
Mae'r olygfa hon fel y byddai wrth ichi edrych o lannau deheuol yr Afon Gwy. Mae Pont Llanfair-ym-Muallt yn y cefndir. Y lle agored ar yr ochr dde yw'r Gro, a fu'n fan cyhoeddus agored i'r ers llawer o flynyddoedd.

 
Y Gro, Llanfair-ym-Muallt
tua 1892
Pafiliwn cychod, c1892
  Pafiliwn cychod yw'r babell fawr gyda'r rhesi arni, sydd ar yr ochr dde. Roedd ymwelwyr yn gallu hurio cychod rhwyfo wrth yr awr o'r fan hon.
Roedd yna lwyfan glanio bach yn ymyl y pafiliwn er mwyn gwneud mynd i'r cwch a dod allan ohoni'n haws. Roedd y lle agored sydd yn cael ei alw Y Gro wedi cael ei ddefnyddio gynt yn grîn y pentref ac roedd anifeiliaid yn cael eu cyrchu yma i bori. Bu hefyd yn lle i daflu sbwriel.
Cafodd y rhes o goed sy'n gwneud glan yr afon mor ddeniadol eu plannu tua 1900, ar ddiwedd cyfnod Fictoria
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt