Llanfair-ym-Muallt
Cludiant
| Cerbydau a Chludwyr | ||
|
|
||
Sylwch
mai'r unig goets oedd yn mynd drwy Llanfair-ym-Muallt oedd y Dart
oedd yn teithio i Landrindod neu Aberhonddu. Byddai teithio i unrhyw le
arall yn fwy anodd o lawer. (Er bod pobl yn ymweld â Llandrindod i yfed
dwr y ffynhonnau doedd yna yr un dref yno ar y pryd,a byddai pobl yn aros
yn y ffermdai lleol.)Sefydlwyd mwy o wasanaethau coets wrth i'r ffyrdd wella yn nes ymlaen. Bob yn eilddydd roedd y Lily of the Valley yn rhedeg drwy'r Gelli ac ymlaen i Cheltenham. Yn 1850 dechreuodd y Mazeppa wasanaeth o Lanfair-ym-Muallt i'r Clas- ar- Wy , Y Gelli, a Henffordd deirgwaith yr wythnos. |
||
Yn
ôl y cyfeirlyfr, mae'n sicr y byddai symud nwyddau o un lle i'r llall yn
anodd hefyd yn y cyfnod am mai dau gludwr yn unig oedd ar gael, y ddau yn
mynd â 'u troliau i Henffordd drwy'r Gelli. |