Llanfair-ym-Muallt
Eglwysi a chapeli
| 1-Ailadeiladu ac adnewyddu | ||
|
Roedd llawer o newidiadau mewn crefydd ar hyd a lled y wlad yn ystod oes Fictoria. Roedd bron pawb yn mynychu rhyw eglwys neu gapel, yn y trefi beth bynnag. Efallai nad oedd holl bobl y wlad yn mynd i gapel neu eglwys, ond roedd gan pob eglwys ei chynulleidfa, ac mae capeli bach i'w gweld yn y lleoedd mwyaf anghysbell. |
Roedd
yr eglwysi yn rhan o Eglwys Loegr yng Nghymru ac roedd llawer o'r hen eglwysi
plwyf yn cael eu hailadeiladu a'u hadnewyddu. Yng nghefn gwlad, yn arbennig,
roedd llawer o'r hen eglwysi plwyf bron â mynd
â'u pen iddynt, ac roedd rhai ohonynt yn edrych yn debycach i
adeiladau ffermydd nag i eglwysi erbyn hyn. Yn ystod oes Fictoria cafodd
llawer iawn o'r eglwysi hyn eu hailadeiladu gan benseiri a oedd yn gosod
steil y cyfnod Fictoraidd arnynt. Felly,
ar ôl yr adnewyddu, ychydig iawn o'r hen eglwysi a oedd yn arfer bod ar
y safle oedd yn parhau. Mae'r llun sy'r tu uchaf yn llun o hen eglwys Llanafan
Fechan cyn iddi gael ei hailadeiladu yn 1866. Sylwch ar y ffenestri bach,
a'r to tyllog. Rhaid ei bod hi'n eglwys dywyll a gwlyb iawn i gynnal gwasanaeth
ynddi. Mae'r llun sy'r tu uchaf ac ar y chwith yn llun o'r eglwys newydd
yn Llanafan Fechan. |
||
|
|