Llanfair-ym-Muallt
Eglwysi a chapeli
| 2-Capeli'r Anghydffurfwyr | ||
|
Daeth llawer o bobl Cymru'n aelodau o gapeli'r anghydffurfwyr yn ystod oes Fictoria. Roedd y bobl hyn yn teimlo nad oeddent am fod yn rhan o Eglwys Loegr. Roedd llawer o'r werin yn teimlo fel hyn. Roeddent hwy'n teimlo'n fwy cartrefol wrth ddod at ei gilydd i godi capel er mwyn cael addoli yn eu ffordd eu hunain. Yn y Gymraeg roedd gwasanaethau llawer o'r capeli. Roedd yr holl emynau a'r darllen yn y Gymraeg hefyd. Gan nad oedd llawer o bobl yn gallu siarad Saesneg roedd hyn yn bwysig iawn. |
| Cafodd Capel Presbyteraidd Alpha ei adeiladu mor bell yn ôl ag 1747. Roedd yn llwyddiant mawr a chafodd ei ailadeiladu yn 1824 ac eto yn 1878. Y capel rydym ni'n ei weld heddiw yw'r un a gafodd ei ailadeiladu yn 1903. | ||
|
|
||
Roedd
y Methodistiaid yn dilyn beth roedd
John Wesley'n ei ddysgu. Roedd eu capel cyntaf hwy ar y gornel rhwng Ffordd
y Gelli a Ffordd y Castell. Wrth i Lanfair- ym-Muallt dyfu, ac i fwy o ymwelwyr
ddod i'r dref, roedd rhaid i'r Methodistiaid Wesleaidd hwythau gael capel
newydd mwy. Yn 1895 agorwyd capel Wesle newydd yn Ffordd y Garth. |