Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Yr Afon Wysg a Choleg Crist  
 

Mae’r ffotograff cynnar hwn yn olygfa o Bont Llanfaes, gyda Choleg Crist a’r Capel y tu hwnt iddo o lannau gogleddol yr Afon Wysg yn Aberhonddu.
Mae’r llun hwn yn dyddio o tua 1870, heb fod yn hir ers adeiladu’r Ty Ysgol newydd ac mae’n edrych tua’r de tuag at Fannau Brycheiniog a Phen y Fan.

 
Yr Afon Wysg
a Choleg Crist
tua 1870
Usk Bridge at Brecon
 

Mae Coleg Crist wedi bod ar ei safle presennol ger yr Afon Wysg ers 1541, pan gafodd hen fynachlog 300 mlwydd oed oedd yno ei ddiddymu gan Frenin Harri’r VIII, a sylfaenwyd ysgol drwy siarter frenhinol.
Roedd adeiladau’r Coleg mewn cyflwr gwael iawn ym mlynyddoedd cynnar oes Fictoria ond cawsant eu harbed gan Deddf Seneddol newydd yn 1855. Yn dilyn hyn buddsoddwyd yn yr adeiladau newydd a welir yn y ffotograff yma gan roi dyfodol gadarn i’r ysgol.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu