Aberhonddu
a'r cylch Mae’r hen ffotograff hwn yn dangos
adeiladau yn y Stryd Fawr Isaf,
Aberhonddu, tua 1890. Ganed yr actores enwog Sarah
Siddons yn 1755 yn yr adeilad i’r chwith o’r Neuadd Feddygol.
Ar un adeg, enw’r adeilad oedd Tafarn y ‘Shoulder
of Mutton’. Yn ddiweddarach, fe’i gelwid yn ‘Siddons
Wine and Spirit Vaults’ ac erbyn hyn, ei enw yw Tafarn ‘Sarah Siddons’. Yn ôl i ddewislen
lluniau o'r Aberhonddu
yn yr oes Fictoria
Y
Neuadd Feddygol, Y Stryd Fawr
Roedd y Neuadd Feddygol - siop fferyllydd
- yn cael ei rhedeg gan Mr Charles ar adeg y llun hwn. Roedd y strwythur
haearn bwrw mawr ar ganol y Stryd Fawr yn dal tair lantern
nwy a phistyll (fountain) yfed.
Symudwyd hwn yn 1934 oherwydd ei fod yn rhwystr gyda’r twf mewn traffig.
Feddygol,
Aberhonddu
tua 1890
Roedd Sarah Siddons yn actores flaenllaw
yn y wlad pan yr oedd yn perfformio rhannau dramatig yn Theatr Drury Lane
yn Llundain. Mae llun ohoni wedi’i baentio gan un o arlunwyr mwyaf dawnus
y cyfnod, gan gynnwys y llun gan Thomas Gainsborough a ddangosir yma.
Bu farw yn 1831, rhyw chwe blynedd
cyn i Fictoria ddod yn Frenhines.