Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Golygfa o Aberhonddu gan arlunydd, 1850  
 

Mae’r llun hwn o ddarlun dyfrlliw hyfryd o’r bont dros yr Afon Honddu yn Aberhonddu, gyda chribau Pen y Fan i’w gweld yn y pellter.
Gwaith yr arlunydd tirwedd o oes Fictoria sef Joseph Murray Ince ydoedd, a dreuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yng ngwlad y gororau o amgylch Llanandras.

Er mwyn gwybod mwy am yr arlunydd hwn, ewch i’n tudalen ar Lanandras ar
Joseph Murray Ince.
Golygfa o
Aberhonddu

1850
1850 view of Brecon
Ganed Joseph Murray Ince yn Llundain yn 1806, ond symudodd i Lanandras pan yn blentyn ifanc. Roedd yn arlunydd medrus iawn a chafodd ei ddarluniau eu harddangos yn yr Academi Frenhinol pan oedd dim ond yn 19 oed. Fe gynhyrchodd nifer o luniau o dirweddau yng Nghymru a Sir Henffordd a darluniodd hefyd y colegau yng Nghaergrawnt. Bu farw yn Llundain yn 1859 yn 53 mlwydd oed.
 

Mae’r olygfa’n edrych dros Afon Honddu ac ar hyd y Struet. Ychydig iawn o newid sydd wedi bod i’r adeilad yng nghanol y darlun sef Gwesty’r Bull’s Head erbyn hyn.
Roedd yr arlunydd eisoes yn arlunydd llwyddiannus erbyn dechrau oes Fictoria yn 1837, felly mae ei ddarluniau yn dangos y dirwedd fel ag yr oeddynt yn edrych yn hanner cyntaf teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu