Aberhonddu a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Y Guildhall, Aberhonddu  
 

Mae’r ffotograff hwn yn dangos y Guildhall yn Stryd Fawr Isaf, Aberhonddu tua 1880.
Cafodd y Guildhall ei hadeiladu yn 1770 yn lle adeilad cynharach oedd ar yr un safle. Defnyddiwyd llawr cyntaf yr adeilad ar gyfer y Llysoedd Teithiol, y Llysoedd Chwarterol, a llysoedd y dref a sir hyd nes cafodd Neuadd y Sir ei hadeiladu yn 1842.

Cafodd y sesiynau llys a gynhaliwyd yn y Guildhall eu trosglwyddo i’r Neuadd Sir newydd yn 1842.
Guildhall,
Aberhonddu
tua 1880
Guildhall, Brecon c1880
 

Mae’n debyg bod amrywiaeth mawr iawn o bobl leol wedi Detail of photographymgynnull o amgylch y Guildhall ar gyfer y ffotograffau a gymerwyd, gan gynnwys nifer o blant ar y dde. Roedd yr arcêd agored ar lawr gwaelod yr adeilad wedi’i gau yn 1888, gan nad oedd bellach yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr fel marchnad yd.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Aberhonddu