Powys Digital History Project

Rhaeadr a chwm Elan
Y Porth i’r Llynnoedd Cymreig

  Lleoliad Prydferth
Tref farchnad fechan Rhaeadr yng ngogledd orllewin Sir hynafol Sir Faesyfed yw’r dref gyntaf ar lannau’r Afon Gwy. Mae’r dref ers amser maith wedi bod yn ganolfan hanfodol ar gyfer y gymuned ffermio gyda’i marchnad anifeiliaid lewyrchus yn gwasanaethu ardal wledig fawr.
Yn ogystal, mae’n gorwedd ar groesffordd ffyrdd pwysig o’r de i’r gogledd a’r dwyrain i’r gorllewin drwy Ganolbarth Cymru.


Elan Valley lakes
Mae’r dref fechan yn fwyaf enwog am fod ar ochr ‘Gwlad y Llynnoedd’ hardd Cymru, wedi’i chanoli i’r gorllewin o Rhaeadr.
  Pen-y-Garreg DamCafodd cyfres o gronfeydd dwr ac argaeau mawr eu creu yn Nyffrynnoedd yr Afonydd Elan a Chlaerwen oddeutu can mlynedd yn ôl. Roedd hwn yn brosiect peirianyddol enfawr i ddarparu cyflenwadau dwr ar gyfer diwydiannau’n tyfu a phoblogaeth dinas Birmingham yng Nghanolbarth Lloegr, oddeutu 70 milltir i’r dwyrain.
Home page