Rhaeadr a chwm Elan
Rheilffordd drwy Rhaeadr
Golygwyd gan Stephen Collard


Manylion o Fap O S 1" a gyhoeddwyd yn fuan wedi i’r rheilffordd ddod i Raeadr.

Archifau Sir Powys

1" mapRhwng y blynyddoedd 1864 a 1963, roedd gan Rhaeadr reilffordd yn cludo pobl, cyflenwadau ac anifeiliaid i ac oddi wrth y dref. Cynhaliwyd seremoni ar ddydd Gwener 2il Medi 1859 lle gwahoddwyd Mrs Pyne o Neuadd Doldowlod i ymgymryd â’r fraint o dorri rhan o laswellt cyntaf rhan Rhaeadr o’r orsaf. Dechreuodd y seremoni yn Neuadd y Dref Rhaeadr gyda band pres yn arwain y dorf a oedd wedi ymgynnull i lawr Stryd y Gorllewin i gae yn agos at y dref. Cyflwynodd un o’r contractwyr Mrs Pyne gan ddweud mai hi ‘oedd y person â’r hawl mwyaf i berfformio’r seremoni gan mai hi oedd disgynnydd James Watt yr oedd y byd yn ddyledus iddo am gyflwyno’r injian stêm.’
 Gorsaf Rhaeadr c.1900  

 

Fe fu 300 o westeion yn ciniawa ac yna fe gawsant lwnc destun i lwyddiant Rheilffordd Canolbarth Cymru fel gelwid y lein bryd hynny. Gelwid un o’r injians cynharaf i deithio ar hyd y lein a adeiladwyd yn 1864 yn addas fel Rhif 1 - ‘James Watt’.
  Cyn 1867 goleuwyd nifer o’r 12 gorsaf ar y Moat Lane i rhan Aberhonddu gan olew morlo. Ar y 1af Ebrill 1888, fe symudodd yr awenau dros y lein o Reilffyrdd Canolbarth Cymru i Gwmni Rheilffyrdd Cambrian. Agorwyd rhan Llanidloes trwy Rhaeadr i’r Bontnewydd-ar-Wy ar gyfer nwyddau ar 1af Medi 1864 ac i deithwyr ar 21ain Medi 1864. Teithiodd y trên teithwyr olaf ar ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr 1963.
  Caiff genedigaeth a marwolaeth y rheilffordd ei gwmpasu gan fywyd y diweddar John Jones, teiliwr o Lanwrthwl, canwr lleol poblogaidd. I ddathlu ei ben-blwydd yn 102 mlwydd oed, fe aeth ar daith ar hyd y lein ac fe fedrai, yn anhygoel, gofio’r trên cyntaf yn teithio ar ei hyd 97 mlynedd yn gynt. Cafodd y lein rheilffordd a oedd yn teithio drwy rannau â’r golygfeydd mwyaf trawiadol ei gau yn dilyn adroddiad Beeching yn 1963. Cafodd y lein a oedd wedi cymryd dros 5 mlynedd i’w osod ac a oedd wedi parhau am 100 mlynedd ei ddatgysylltu a’i waredu mewn dim ond ychydig o fisoedd.

 Llun drwy ganiatâd caredig Stephen Collard

Rhayader stationO’r chwith i’r dde

Meistr yr Orsaf: Alan Davies
Gwarchodwr: Peris Evans,
Dyn y Signalau:
Elystan Evans
Gyrrwr yr Injian:
Donald Jones o Lanidloes


 

   
  Gwybodaeth a gyflenwyd gan
Archifau Hanesyddol Rhaeadr a’r Cyffiniau
www.orchard.headweb.co.uk/archives