Rhaeadr a chwm Elan
Yr Hen Nant Bwgey
gan Stephen Collard


 
Caed nant yn rhedeg drwy strydoedd Rhaeadr a oedd yn ôl un awdur o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ‘felltith i bob teithiwr’ er bod y bobl leol yn hoff iawn ohoni. Dywedwyd mai y dwr oedd y rheswm am olwg iachus plant y dref a dywed yr hen bennill Cymreig;
‘adarn Bwgey, glanha ynghymry’ sy’n cael ei drosi’n rhydd i
‘y plant harddaf y medr Gymru ei gael
yw’r rhai sy’n yfed o donnau bywiog Bwgey.’

 

Nant Bwgey yn rhedeg i lawr ochr ddwyreiniol Stryd y Gogledd c. 1865


Llun drwy ganiatâd caredig Stephen Collard

Mae’r Bwgey yn dechrau’n uchel i’r gogledd o’r dref mewn cae o’r enw Cae Blaenbuggey ac o’r man hwn, roedd yn arfer bwydo i fewn i ddau bwll bychan cyfagos. Gelwid y cyntaf yn ‘Lle yfed Cenfas’ (Cenvas Watering Place) a leolwyd ger Lodge Bryntirion. Yna, byddai’r Bwgey yn llifo i fewn i bwll arall a elwid yn ‘Lle yfed Ffordd Llanidloes’ (Llanidloes Road Watering Place). Lleolwyd y pwll hwn ger Bwthyn y Maes a chafodd ei ail-enwi’n ddiweddarach yn Bwll y Meddyg. Yn yr 1820au, roedd hawl gan y bobl hynny yn byw ger y pwll i adael i’w ceffylau a’u gwartheg i yfed o’r Bwgey a defnyddiwyd sianel artiffisial o’r enw Bwgey Fawr ar gyfer y pwrpas hwn. Byddai dwr o’r rhan hon yn rhedeg i lawr Stryd y Gogledd (gweler y llun), yn troi i fewn i Stryd y Gorllewin, yna i lawr Lôn y Dðr gan ymuno â’r Afon Gwy islaw Pont Rhaeadr. Ar ei ffordd i lawr y strydoedd, byddai’r Bwgey yn pasio o dan bontydd slabiau cerrig a fyddai’n galluogi pobl i fyned fewn i’w cartrefi.

 

Cafodd rhan o’’r Bwgey sy’n llifo drwy’r strydoedd ei chladdu yn 1877. Yr unig ran sydd dal yn llifo yw’r llifogydd achlysurol a geir mewn rhai isloriau. Roedd Swan House ger y groesffordd yn arfer dioddef o’r llifogydd hyn gyda’r islawr yn llenwi hyd at ben y grisiau. Roedd hen ddywediad yn sôn y byddai unrhyw un a fyddai’n camu i fewn i’r Bwgey yn dychwelyd yn y pendraw i Rhaeadr. Roedd pobl Rhaeadr yn arfer cael eu galw yn ôl y term hoffus ‘Bwggeyites’.
   
  Gwybodaeth a gyflenwyd gan
Archifau Hanesyddol Rhaeadr a’r Cyffiniau
www.orchard.headweb.co.uk/archives