Powys Digital History Project Llanidloes manuscript
 

Ym mherfeddion Cymru
Mae’r dref hynafol, Llanidloes yn Sir Drefaldwyn bron iawn yng nghanol Cymru. Tref o darddiad canoloesol ydyw a dyma’r dref gyntaf ar lannau’r Afon Hafren.

Ar un adeg, roedd yr ardal o amgylch Llanidloes yn bwysig iawn ar gyfer cloddio plwm a hyd yn oed, arian. Roedd diwydiant gwlanen llewyrchus yn y dref. Yn ogystal, roedd y dref yn enwog fel ffocws anfodlonrwydd diwydiannol yn ystod gwrthryfel y Siartwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sef ymgyrch am hawliau democratig a ysbardunwyd gan gwymp y diwydiant tectstiliau lleol.

   Saif y neuadd dref ffrâm bren hynafol ar groesffordd pedair stryd y dref ganoloesol wreiddiol. Wedi ei hadeiladu oddeutu 1600, dyma’r unig adeilad o’i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Cynhaliwyd brawdlysoedd yn y Neuadd oddeutu 1605 a bu John Wesley yn pregethu o’r pulpud carreg ar y llawr gwaelod agored yn 1748.
Home page