Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ffotograffau Fictoriaidd
  Gwneud lle i Castle Square  
 

Dymchwelwyd yr adeilad sydd yng nghanol y llun, gyda’r arwydd 'Evans - Saddler' arno, a’r adeilad yr ochr draw iddo Saddlery advertisement o gwmpas 1885. Ond llwyddwyd i gadw’r busnes a welwch yn ymyl (gwelwch ar y dde).
Roedd yr olygfa ar ben draw Castle Street, yn ymyl y gyffordd gyda High Town. Daeth safle’r adeiladau a gollwyd yn rhan o Castle Square, a ddefnyddir yn awr fel maes parcio.

Hysbyseb i Evans y Cyfrwywr o gyfeirlyfr masnach a argraffwyd yn 1895. Sylwch ar y busnes ychwanegol mewn beltiau gyrru ar gyfer peiriannau Fictoraidd.
Castle Street
Y Gelli
1880
Castle Street, 1885
Llun trwy garedigrwydd
Eric Lewis Pugh
Y Gelli
 

Mae’r rhes o blant a welir yn y llun yma yn edrych fel pe baent yn cael eu harwain ar draws y ffordd gan ‘ddynes lolipop’ !
Ond, wrth gwrs, nid oedd digon o draffig ac felly Castle Squarenid oedd eu hangen cyn 1885, ac roedd y traffig yn symud yn araf iawn, yn enwedig ar hyd strydoedd culion fel y rhain !
Yn y llun hwn a dynnwyd yn 1999 gallwch adnabod y siop ar y chwith yn y ddau lun, a’r hen wal ar y dde hefyd. Mae brig hen adeilad neuadd y dref yng nghanol y llun newydd (y tu ôl i’r baneri lliwgar) i’w weld uwchben yr hen adeiladau coll yn y llun o oes Fictoria.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Y Gelli

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli