Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ffotograffau Fictoriaidd
  Peidiwch symud, da chi !  
 

Plant ac athrawon Ysgol yr Eglwys,neu Ysgol Genedlaethol Y Gelli yw’r rhain. Tynnwyd y llun tua 1895 y tu allan i Neuadd y Plwyf, Y Gelli yn Lion Street, yn y cyfnod pan gynhaliwyd dosbarthiadau’r plant ieuengaf yno.
Mae’n amlwg fod y plant i fod i wisgo’u dillad gorau ar gyfer yr achlysur, yn cynnwys pinaffor glân gan y merched.

Llun trwy garedigrwydd
Eric Lewis Pugh
Y Gelli
Oxford Road
Y Gelli
1900
School group
Brysiwch !
Mae ‘nhrwyn i’n cosi !
 

Bron bob amser mewn Lluniau Fictoraidd o grwpiau o blant fe welwch o leiaf un neu ddau wyneb niwlog! Roedd camerâu a ffilmiau gryn dipyn mwy cyntefig nad ydynt heddiw, ac roedd yn rhaid i bobl oedd yn cael eu lluniau wedi’u tynnu eistedd yn llonydd iawn am amser reit hir. Yn aml iawn, roedd hyn yn waith anodd i blant !
Byddai rhai ffotograffwyr portreadau yn defnyddio clampiau pren i rwystro person rhag symud ei ben tra tynnwyd y llun ! Synnwn i ddim nad oedd y bachgen yn y rhes ganol yn ceisio clampio’i ben ei hun !

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Y Gelli

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli