Y Gelli a Dyffryn Gwy
Francis Kilvert
  Dyddiaduron enwog curad Fictoraidd  
 

Roedd y Parchedig Francis Kilvert yn Gurad dros blwyf Cleirwy, ger Y Gelli, o 1865 hyd 1872. Yn 1870 dechreuodd gadw dyddiadur, ac ynddo disgrifiai’r bobl roedd yn eu cyfarfod a lleoedd y bu’n eu gweld, a hynny’n fanwl dros ben.
Dinistriwyd llawer o’r dyddiaduron, ond cafodd rhai eu cyhoeddi’n ddiweddarach. Daethant yn enwog fel y 'Kilvert's Diaries' am eu bod yn rhoi darlun prin inni o fywyd gwledig ym mlynyddoedd olaf oes Fictoria.

 
  Roedd y bonheddwyr yn eglwyswyr yng nghyfnod Fictoria, a byddai Kilvert yn cymysgu gyda phobl bwysig y cyfnod.
Ond roedd yn dangos llawer o ddiddordeb ym mhobl dlawd yr ardal hefyd, a byddai’n ysgrifennu am eu bywyd caled a’u tai truenus yn aml.
Daeth Francis Kilvert yn hoff iawn o’r ardal wledig hyfryd a charai gerdded ym mynyddoedd a dyffrynoedd Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog. Roedd yn disgrifio’r wlad o gwmpas yn fanwl iawn. Mae Llyfr Log Ysgol Saint Harmon ger Rhaeadr-Gwy yn sôn am ei ymweliadau â’r ysgol pan oedd yn Gurad yn y plwyf hwnnw yn 1876.
Revd Francis Kilvert
 

Ysgrifennwyd yr enghraifft hon o ddyddiaduron Francis Kilvert ar Fai 17eg, 1871- -
"The great May Hiring Fair at Hay, and squadrons of horse come charging and battalions of foot tramping along the dusty roads to the town, more boys and fewer girls than usual. All day long the village has been very quiet, empty, most of the village folk being away at the fair. Now at 8pm the roads are thronged with people pouring home again, one party of three men riding on one horse".

Yn 1879 bu farw Francis Kilvert ac yntau yn ddim ond 38 oed, ond bydd ei hanesion agos-atoch am bobl a lleoedd o gwmpas Y Gelli yn sicrhau na chaiff ei anghofio.

 

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli