Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ffotograffau Fictoriaidd
  Golygfa hudlusern o High Town  
 

Tynnwyd y llun hwn tua 1885, ac mae’n dangos cyffordd High Town a’r Pafin yng nghanol yr hen ran o’r dref. Roedd y strydoedd culion yn llawn iawn – mae’n siwr ei bod yn ddiwrnod marchnad.

 
High Town
Y Gelli
1885
High Town, Hay
Llun trwy garedigrwydd
Eric Lewis Pugh
Y Gelli
 

Defnyddiwyd y llun hwn yn wreiddiol i’w daflu ar wal High Town,Hay neu sgrîn gan 'Hudlusern' neu ‘Magic Lantern’, sef taflunydd ffilmiau cynnar. Roedd arddangosfa o luniau fel hyn yn achlysur arbennig iawn yn oes Fictoria.

Fe welwch o’r llun diweddar ar y dde fod yr olygfa yn yr hen lun yn dal i edrych yn ddigon tebyg heddiw. Ond, mae’r poster sy’n hysbysebu peiriannau gwnïo am dair punt, saith swllt a chwe cheiniog wedi hen ddiflannu !

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Y Gelli

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli