Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ffotograffau Fictoriaidd
  Capel Methodist Wesleaidd  
 

Mae’r llun hwn yn dangos y Capel Methodist Wesleaidd a arferai sefyll ar gornel Brecon Road a St Mary's Road yn Y Gelli. Roedd aelodau o’r gynulleidfa wedi ymgynnull y tu allan i’r capel tua 1880 i gael tynnu’u llun.
Bu John Wesley yn pregethu yn y capel hwn nifer o weithiau rhwng 1771 a 1781.

Llun trwy garedigrwydd
Eric Lewis Pugh
Y Gelli
Capel
Methodist
y Gelli
1880
The building had fallen into a very bad state by 1910, when the picture above was taken.
 

Yn wreiddiol, roedd gan y capel un llawr, to serth, uchel, a ffenestri uchel hardd fel y gwelir uchod. Roedd hyn yn ei wneud yn addas iawn i’w ddefnyddio fel capel, ond yn ddiweddarach, cafodd ei rannu’n ddau lawr a’i ddefnyddio fel gweithdy ac yna fel ty.

Mae’r ty sy’n sefyll ar safle’r hen gapel heddiw’n yn dal i fod â tho o’r un siâp, ac mae’r bythynnod drws nesaf yn St Mary's Road yn dal yn debyg iawn i’r hyn oeddynt yn yr hen luniau. O leiaf mae rhan o’r hen adeilad i’w weld o hyd yn y ty a welwn yma.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Y Gelli

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli