Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ffotograffau Fictoriaidd
  Hen fythynnod Chain Alley  
 

Mae’r hen lun yma’n dangos rhes o fythynnod a arferai fod o dan lefel y ffordd yn Newport Street ar ffin ogledd-ddwyrain y dref. Yr enw a roddwyd ar y rhes oedd 'Chain Alley' am fod y cwymp serth wrth ymyl y ffordd yn cael ei warchod gan byst pren wedi’u cysylltu gan gadwyni. Roedd 13 o fythynnod yma, ac roeddynt mewn cyflwr drwg iawn.
Am eu bod ar y ffordd a arweiniai o’r orsaf i ganol y dref dywedwyd, pan gawsant eu dymchwel yn 1884, fod hyn yn "a very desirable improvement" !

 
Chain Alley
Y Gelli
1880
Chain Alley, Hay
Llun trwy
garedigrwydd
Eric Lewis Pugh
Y Gelli
 

Mae’r dyddiaduron enwog a ysgrifennwyd gan Francis Kilvert, curad Cleirwy o 1865 hyd 1872, yn cyfeirio at Chain Alley amryw o weithiau.
Wedi i’r bythynnod gael eu dymchwel bu’r safle’n ddarn agored o dir am beth amser, a rhoddwyd yr enw 'Cats Park' arno’n lleol. Erbyn hyn mae tai newydd ac adeiladau eraill ar y safle.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Y Gelli

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli