Llanfair-ym-Muallt
Graffiau poblogaeth
  Ffigurau cyfrifiad ar gyfer yr ardal  
 

Wrth i bobl symud o gwmpas i gael gwaith tyfodd y boblogaeth ym mhlwyfi gwledig ardal Dyffryn yr Afon Gwy yn ystod oes Fictoria. Roedd y wybodaeth am y boblogaeth leol yn cael ei chofnodi yn y cyfrifiadau oedd yn cael eu gwneud bob deng mlynedd.

Roedd dynion yn cael eu cyflogi i deithio o gwmpas yr ardal ac i gofnodi pwy oedd yn byw ymhob ty, a beth oedd eu gwaith. Mae'r graffiau poblogaeth wedi eu llunio gan ddefnyddio'r cofnodion yma.

Rhannwyd Prydain yn blwyfi (fel y dangosir ar y map) ac mae’r ffigurau yn cofnodi faint o bobl oedd
yn byw yn y plwyf.

 

Fel arfer y plwyf oedd y pentref o amgylch eglwys y plwyf a’r ardal oddi amgylch iddo. Roedd sawl cymuned fechan yn rhan o rai plwyfi.

Dewiswch o’r rhestr a welwch chi i weld graffiau poblogaeth ar gyfer rhai o’r llefydd lleol yng nghyfnod Fictoria.

 
 
Llanfair-ym-Muallt
Llanelwedd
 
 
Llanddewi'r Cwm
Maesmynis
 
 
 
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair-ym-Muallt