Llanfair-ym-Muallt
Mapiau Fictoriaidd
Llanafan Fawr a Llanfihangel Brynpabuan yn 1833 | ||
Mae'r map isod yn chwyddiant o ran
arall o fap Ordnans a gafodd ei wneud
ar raddfa o 1 fodfedd = 1 filltir yn 1833. Nid oes yma lawer o fanylion,
ond er hyn cewch yma ryw syniad o'r ardal yn ystod cyfnod cynnar oes Fictoria.
|
||
Yr hen ffordd yw'r ffordd sydd yn mynd drwy'r ddau bentref. Mae'r ffordd yn cysylltu Dyffryn Gwy gyda'r ffyrdd sydd yn mynd i Orllewin Cymru drwy Lanwrtyd. Tua Gogledd y map gallwn weld y lonydd a'r ffyrdd sydd yn mynd tua'r ffermydd a'r tyddynnod sydd ar lethrau'r cribau uchel y mynydd. | ||
Byddai
pawb yn yr ardal yn gweithio ar y tir
mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn y cyfnod hwn. Ni fyddai bywyd y gweithiwr
fferm,y bugeiliaid, y melinydd, a'r gweision fferm wedi newid rhyw lawer
ers canrif. Byddai pawb yn siarad yr iaith Gymraeg. Ychydig iawn fyddai'n
gallu siarad Saesneg. . |