Powys Digital History Project
 

Cyrion y Cymoedd
Mae Cwm Tawe Uchaf yn gorwedd ar eithafion deheuol y 2000 o filltiroedd sgwâr a ddaw o fewn sir Powys. Tra bod ochr ogleddol y Sir yn cyffwrdd â bryniau godre Eryri, mae’r ffin ddeheuol yn agos at ganolfannau diwydiannol y cymoedd.

Mae’r mwyafrif o ran Sir Frycheiniog o Gwm Tawe yn gorwedd yn hen blwyf Ystradgynlais a oedd unwaith yn ardal amaethyddol oddeutu 12,000 erw. Nid oes sicrwydd pryd dechreuwyd cloddio glo gyntaf yn y cwm ond cynhyrchwyd haearn yng Ngweithfeydd Haearn Ynyscedwyn o leiaf mor gynnar â dechrau’r ddeunawfed ganrif. Roedd presenoldeb mwyn haearn a glo yn yr ardal yn cynnig posibiliadau ond gyda ffwrnais chwyth poeth David Thomas yn cael ei ddatblygu a oedd yn defnyddio glo carreg, cyflymwyd y broses ddiwydiannol yn fawr iawn. Cafodd y gweithwyr ar gyfer y diwydiannau newydd eu cartrefu mewn cymunedau bychain a oedd yn codi ar hyd y cwm.

 

Yn y pendraw, dirywiodd y diwydiant cloddio glo a chynhyrchu dur yn lleol ond effeithiwyd ar dirwedd y cwm a rhagolygon ei phobl am byth gan brofiad yr amser hwnnw.

Cliciwch ar y botwm "Ewch ymlaen" i weld golygfeydd o’r dirwedd.