Llanandras:Tref y Gororau
Mae Llanandras, sef cyn dref y Sir ar gyfer Sir Faesyfed, yn gorwedd ar lannau deheuol yr Afon Llugwy. Ardraws yr hen bont Llugwy, yw’r sir Seisnig Swydd Henffordd. Dim ond tair milltir i’r gorllewin o’r dref, gwelir gwrthglawdd hynafol Clawdd Offa sy’n dyddio’n ôl i’r wythfed ganrif.

Tân a Phla
Mae’r prif ddigwyddiadau yn hanes Llanandras yn cynnwys sawl epidemig trychinebus o’r pla yn yr unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg a thân mawr 1681 a ddinistriodd llawer o’r dref. Dewisiwyd Llanandras fel lleoliad ar gyfer y Sesiynau Mawr 1541 a oedd yn eitha tebyg i’r brawdlysoedd Seisnig. Yn ddiweddarach, daeth Llanandras yn leoliad ar gyfer y Sesiynau Chwarterol a oedd yn delio â man-droseddau.
  Canons Lane, PresteigneDiogleu’r gorffennol
Yn rhyfeddol iawn, mae Llanandras wedi parhau’n ddigyffwrdd ac mae llawer o’i hadeiladau hanesyddol, fel yn y darlun o’r hen dþ hwn, wedi parhau’n ddigyfnewid.
Gellir darganfod mwy o wybodaeth ynglþn â nodweddion gwahanol y digwyddiadau sydd wedi creu’r dref sydd ohoni heddiw ar y tudalennau hyn. Dewisiwch un o’r dewisiadau a roddir ar y dudalen dewislen.